Ecclesiasticus 47:14-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. Mor ddoeth fuost, Solomon, yn dy ieuenctid,a'th ddealltwriaeth fel afon yn gorlifo!

15. Ymledodd dy ddylanwad dros y ddaeara'i llenwi â diarhebion a dirgelion.

16. Daeth dy enw'n hysbys yn yr ynysoedd pell,a daethpwyd i'th garu am heddwch dy deyrnasiad.

17. Daeth dy gerddi, dy gyffelybiaethau, dy ddiarhebiona'th ddehongliadau yn rhyfeddod yng ngolwg y gwledydd.

18. Yn enw'r Arglwydd Dduw,a adwaenir fel Duw Israel,cesglaist aur fel casglu alcam,a phentyrru arian fel petai'n blwm.

19. Gollyngaist dy hun i gydorwedd â gwragedd,a rhoi iddynt hawl ar dy gorff.

20. Difwynaist dy enw daa halogi dy hiliogaeth;dygaist ddigofaint ar dy blant,a gofid iddynt am dy ffolineb:

Ecclesiasticus 47