Ecclesiasticus 44:11-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Trwy eu had fe eryseu hiliogaeth yn etifeddiaeth deg.

12. Saif eu had oddi mewn i'r cyfamodau,a thrwyddynt hwy, eu plant hwythau.

13. Fe erys eu had am byth,ac ni ddileir y clod sydd iddynt.

14. Cleddir eu cyrff mewn heddwch,ond bydd eu henw'n fyw am genedlaethau.

15. Bydd pobloedd yn traethu eu doethineb,a'r gynulleidfa'n canu eu clod.

16. Rhyngodd Enoch fodd yr Arglwydd, a chymerwyd ef ymaith,yn batrwm o edifeirwch i bob cenhedlaeth.

17. Cafwyd Noa yn ŵr perffaith a chyfiawn,ac yn nydd digofaint fe ddaeth yn ddirprwy y byd.O'i achos ef gadawyd gweddill ar y ddaearpan ddaeth y dilyw.

18. Gwnaed cyfamod tragwyddol ag ef,na châi dim sy'n byw ei ddileu byth eto gan ddilyw.

Ecclesiasticus 44