Ecclesiasticus 42:21-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. Rhoes drefn ar fawrion weithredoedd ei ddoethineb;y mae yn bod o dragwyddoldeb i dragwyddoldeb,un nad oes ychwanegu ato na thynnu oddi wrtho,a heb fod arno angen cyngor neb.

22. Mor ddymunol yw ei holl weithredoedd ef,fel y gwelir hyd yn oed mewn gwreichionen.

23. Y mae pob un ohonynt a bywyd ynddi, ac yn para am byth,ac yn ufudd ym mhob defnydd a wneir ohoni.

24. Y mae dau o bob peth, y naill yn wrthwyneb i'r llall;ni wnaeth ef ddim yn ddiffygiol.

25. Y mae'r naill yn cadarnhau gwerth y llall.Pwy a all gael digon o syllu ar ei ogoniant ef?

Ecclesiasticus 42