Ecclesiasticus 41:16-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Gan hynny, byddwch yn barchus o'm gair i,oherwydd nid yw pob math o gywilydd yn beth da i'w goleddu,ac nid yw pob peth i'w gymeradwyo'n ffyddiog bob amser.

17. Bydded cywilydd arnoch o buteindra yng ngŵydd tad a mam,o gelwydd yng ngŵydd tywysog a llywodraethwr,

18. o drosedd yng ngŵydd barnwr ac ynad,o gamwedd yng ngŵydd y gynulleidfa a'r bobl,o anghyfiawnder yng ngŵydd cydymaith a chyfaill,

19. ac o ladrad yng ngŵydd dy gymdogaeth;ymgywilyddiwch yng ngŵydd gwirionedd a chyfamod Duw.Bydded cywilydd arnat o osod dy benelin ar y bwrdd,o dderbyn a rhoi mewn dirmyg,

Ecclesiasticus 41