Ecclesiasticus 33:4-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. O baratoi dy araith, cei wrandawiad;casgla dy ddysg yn becyn trefnus, ac yna rho dy ateb.

5. Troi fel olwyn trol y mae teimladau ffŵl,a'i feddyliau'n chwyldroi fel yr echel.

6. Y mae cyfaill coeglyd fel stalwyn,sy'n gweryru ni waeth pwy sydd ar ei gefn.

7. Pam y mae un dydd yn well na'r llall,er mai o'r haul y daw golau pob dydd o'r flwyddyn?

8. Yr Arglwydd a wahaniaethodd rhyngddynt trwy ei wybodaeth;ef a drefnodd yr amrywiol dymhorau a gwyliau,

9. gan wneud rhai ohonynt yn uchel-wyliau sanctaidd,a gosod eraill ymhlith rhifedi'r dyddiau cyffredin.

10. O lawr y ddaear y daw'r ddynolryw gyfan,ac o'r pridd y crewyd Adda.

Ecclesiasticus 33