Ecclesiasticus 32:9-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Yng nghwmni mawrion, paid â chystadlu â hwy,a pharablu llawer pan fydd rhywun arall yn siarad.

10. Y mae mellt yn fflachio o flaen y daran,a chymeradwyaeth yn rhagflaenu rhywun gwylaidd.

11. Cod i ymadael yn brydlon; paid â bod yn olaf;brysia adref yn ddiymdroi.

12. Yno cei ymlacio a gwneud a fynni,heb bechu trwy siarad balch.

Ecclesiasticus 32