Ecclesiasticus 31:9-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Pwy yw ef, i ni ei alw'n wynfydedig?Oherwydd gwnaeth ryfeddodau ymhlith ei bobl.

10. Pwy a brofwyd fel hyn a'i gael yn berffaith?Y mae gan hwnnw le i ymffrostio.Pwy, a'r gallu ganddo i droseddu, na throseddodd,na gwneud drwg pan allai ei wneud?

11. Bydd ei ffyniant ar seiliau cadarn,a'i elusengarwch yn destun mawl i'r gynulleidfa.

12. Pan fyddi'n eistedd wrth fwrdd llwythog,paid â rhythu'n geg-agored arno,na dweud, “Dyma beth yw gwledd!”

13. Cofia mai peth pechadurus yw llygad gwancus.A oes dim gwaeth na'r llygad wedi ei greu?Dyna pam y mae ei ddagrau ar bob wyneb.

Ecclesiasticus 31