Ecclesiasticus 29:12-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Rho elusengarwch ynghadw yn d'ystordai,a bydd yn waredigaeth iti rhag pob aflwydd.

13. Cryfach na tharian, grymusach na phicell,fydd arfogaeth o'r fath iti i ymladd â'th elyn.

14. Rhywun da fydd yn mechnïo dros ei gymydog,ac un a gollodd bob cywilydd fydd yn cefnu arno.

15. Paid ag anghofio caredigrwydd dy fechnïwr,oherwydd fe roes ei fywyd er dy fwyn.

16. Y pechadurus fydd yn dymchwel llwyddiant ei fechnïwr,a'r diddiolch fydd yn gollwng dros gof y sawl a'i gwaredodd.

Ecclesiasticus 29