Ecclesiasticus 18:12-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Gwelodd, a gwybu enbydrwydd eu hargyfwng;am hynny maddeuodd yn fwy helaeth iddynt.

13. Ei gymydog yw gwrthrych tosturi rhywun,ond y mae pawb yn wrthrych trugaredd yr Arglwydd;y mae'n ceryddu, yn hyfforddi, yn dysgu,ac yn eu dwyn yn ôl, fel bugail ei braidd.

14. Y mae'n trugarhau wrth y rhai sy'n derbyn disgyblaeth,ac wrth y rhai sy'n dyfal geisio ei ddyfarniadau.

15. Fy mab, paid â chlymu cerydd wrth dy gymwynas,na geiriau cas wrth yr un o'th roddion.

16. Onid yw'r gwlith yn lleddfu'r gwres tanbaid?Felly trech gair na rhodd.

17. Yn wir, onid rhagorach yw gair nag anrheg ddrud?Ceir y ddau gan rywun graslon.

18. Edliw'n ddiras y mae ynfytyn,ac y mae rhodd y crintachlyd yn achos dagrau.

Ecclesiasticus 18