Ecclesiasticus 17:4-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Rhoes eu hofn ar bob creadur,a'u gwneud yn arglwyddi ar anifeiliaid ac adar.

6. Ewyllys, tafod a llygad,clust a meddwl, doniau Duw ydynt i roi dirnadaeth iddynt.

7. Llanwodd hwy â gwybodaeth a deall,a dangos iddynt dda a drwg.

8. Cadwodd ei olwg ar eu calonnau,i ddangos iddynt fawredd ei weithredoedd.

10. Clodforant hwy ei enw sanctaidd,gan fynegi mawredd ei weithredoedd.

Ecclesiasticus 17