Ecclesiasticus 12:15-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Am awr yr erys ef gyda thi,ac os llithro a wnei, ni lŷn wrthyt.

16. Y mae gwefusau'r gelyn yn diferu melyster,ond yn ei galon y mae'n cynllwynio i'th fwrw i bydew.Y mae llygaid y gelyn yn colli dagrau,ond os caiff gyfle, ni fydd tywallt gwaed yn ddigon ganddo.

17. Os daw drygfyd arnat, cei ei fod ef yno o'th flaen,yn cymryd arno dy helpu ond yn baglu dy droed.

Ecclesiasticus 12