Ecclesiasticus 12:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Wrth wneud cymwynas, ystyria i bwy yr wyt yn ei gwneud,a chei ddiolch am dy gymwynasau.

2. Gwna dda i'r duwiol, ac fe gei dy dalu'n ôl,os nad ganddo ef, yna gan y Goruchaf.

3. Ni ddaw daioni i'r sawl sy'n dal ati i wneud drygioni,nac i'r sawl sy'n gwrthod rhoi elusen.

4. Rho i'r duwiol, ond paid â chynorthwyo'r pechadur.

5. Gwna dda i'r gostyngedig, a phaid â rhoi i'r annuwiol.Atal iddo ei fara, a phaid â rhoi iddo,rhag iddo drwyddo fynd yn feistr arnat.Oherwydd cei ganddo ddwywaith cymaint o ddrwg yn dâlam yr holl ddaioni a wnaethost iddo ef.

Ecclesiasticus 12