Ecclesiasticus 1:16-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Ofni'r Arglwydd yw cyflawnder doethineb;o'i ffrwythau fe rydd iddynt ddigonedd o win.

17. Fe leinw eu holl dŷ hwy â'i phethau dymunol,a'u hysguboriau â'i chnydau.

18. Ofn yr Arglwydd yw torch doethineb,a thangnefedd a hoen iechyd yn flodau arni.

19. Ef a'i canfu hi, a'i dosrannu;glawiodd fedrusrwydd a phwyll gwybodaeth,a dyrchafodd i ogoniant y rhai sy'n glynu wrthi.

20. Ofni'r Arglwydd yw gwreiddyn doethineb,a hir ddyddiau yw ei changhennau hi.

22. Ni ellir cyfiawnhau dicter anghyfiawn,oherwydd pan dry ei ddicter y dafol cwympo a wna dyn.

23. Bydd un da ei amynedd yn ymarhous nes dyfod ei awr,ac yna bydd llawenydd yn torri arno.

Ecclesiasticus 1