Doethineb Solomon 5:18-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. Fe wisg gyfiawnder yn ddwyfronneg,a barn ddidwyll yn helm ar ei ben.

19. Fe gymer sancteiddrwydd yn darian anorchfygol,

20. a min ei ddicter llym yn gleddyf iddo.Daw'r bydysawd i'r frwydr gydag ef yn erbyn y rhai gwallgof.

21. Bydd bolltau'r mellt yn cyrchu'n ddi-feth at y nod;llamant ato fel saeth o fwa anelog y cymylau.

22. Lluchir cenllysg yn llawn dicter fel cerrig o daflydd.Bydd dŵr y môr yn ffyrnig yn eu herbyn,ac afonydd yn eu golchi ymaith yn ddidostur,

23. a gwynt nerthol yn codi yn eu herbynac yn eu chwythu ymaith fel corwynt.Diffeithir yr holl ddaear gan anhrefn,a dymchwelir gorseddau'r llywodraethwyr gan eu gweithredoedd drwg.

Doethineb Solomon 5