Doethineb Solomon 4:18-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. Fe'i gwelant ac fe'i dirmygant;ond bydd yr Arglwydd yn chwerthin am eu pen hwy.A'r peth nesaf fydd eu cael yn gelanedd di-barch,ac yn warth ymhlith y meirw am byth,

19. am y bydd ef yn eu lluchio ar eu hyd yn gyrff mud,a'u dymchwel yn llwyr,a'u llosgi'n llwch;poenedigaeth fydd eu rhan,a derfydd y cof amdanynt.

20. Ar ddydd cyfrif eu pechodau dynesant fel llyfrgwn,am y collfernir hwy yn eu hwyneb gan eu troseddau eu hunain.

Doethineb Solomon 4