Doethineb Solomon 2:5-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Oherwydd cysgod yn mynd heibio yw ein hoedl,ac nid oes dychwelyd oddi wrth ein diwedd;seliwyd ein tynged, ac ni all neb droi yn ei ôl.

6. Dewch, felly, mwynhawn bob difyrrwch sy'n bod;ymrown ag asbri ieuenctid i bleserau'r greadigaeth.

7. Mynnwn ein gwala o win drudfawr ac o beraroglau,a pheidied hoen y gwanwyn â mynd heibio inni.

8. Plethwn am ein pennau dorch o rosod yn eu blagur cyn iddynt wywo.

9. Peidied neb ohonom â bod heb ei gyfran o'n gloddesta;gadawn arwyddion ein rhialtwch ym mhobman,am mai dyma'n rhan a dyma'n cyfran.

Doethineb Solomon 2