Doethineb Solomon 1:14-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. Pwrpas y creu oedd rhoi bod i bob peth,a phwerau creadigol y byd yw ei iechyd;nid oes ynddynt wenwyn marwol,na chyfle i angau deyrnasu ar y ddaear.

15. Y mae cyfiawnder yn anfarwol,

16. ond ar air a gweithred gwahoddodd yr annuwiol angau i'w plith;gan iddynt ei ystyried yn gyfaill, darfu amdanynt.Gwnaethant gyfamod ag ef,oherwydd teilwng ydynt o fod yn bartneriaid iddo.

Doethineb Solomon 1