Diarhebion 8:11-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Yn wir, y mae doethineb yn well na gemau,ac ni all yr holl bethau dymunol gystadlu â hi.

12. Yr wyf fi, doethineb, yn byw gyda chraffter,ac wedi cael gwybodaeth a synnwyr.

13. Ofn yr ARGLWYDD yw casáu drygioni;yr wyf yn ffieiddio balchder ac uchelgais,ffordd drygioni a geiriau traws.

14. Fy eiddo i yw cyngor a chraffter,a chennyf fi y mae deall a gallu.

Diarhebion 8