Diarhebion 7:24-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. Yn awr, blant, gwrandewch arnaf,a rhowch sylw i'm geiriau.

25. Paid â gadael i'th galon dy ddenu i'w ffyrdd,a phaid â chrwydro i'w llwybrau;

26. oherwydd y mae wedi taro llawer yn gelain,a lladdwyd nifer mawr ganddi.

27. Ffordd i Sheol yw ei thŷ,yn arwain i lawr i neuaddau marwolaeth.

Diarhebion 7