Diarhebion 4:8-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Meddwl yn uchel ohoni, ac fe'th ddyrchefir ganddi;fe'th anrhydedda, os cofleidi hi.

9. Gesyd dorch brydferth ar dy ben,a rhoi coron anrhydedd iti.”

10. Fy mab, gwrando, a dal ar fy ngeiriau,ac fe ychwanegir blynyddoedd at dy fywyd.

11. Hyfforddais di yn ffordd doethineb;dysgais iti gerdded llwybrau union.

12. Pan gerddi, ni rwystrir dy gam,a phan redi, ni fyddi'n baglu.

13. Glŷn wrth addysg, a hynny'n ddiollwng;dal d'afael ynddi, oherwydd hi yw dy fywyd.

Diarhebion 4