Diarhebion 29:12-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Os yw llywodraethwr yn gwrando ar gelwydd,bydd ei holl weision yn ddrygionus.

13. Y mae hyn yn gyffredin i'r tlawd a'r gormeswr:yr ARGLWYDD sy'n goleuo llygaid y ddau.

14. Os yw brenin yn barnu'r tlodion yn gywir,yna fe sefydlir ei orsedd am byth.

15. Y mae gwialen a cherydd yn rhoi doethineb,ond y mae plentyn afreolus yn dwyn gwarth ar ei fam.

16. Pan amlha'r drygionus, bydd camwedd yn cynyddu,ond bydd y cyfiawn yn edrych ar eu cwymp.

17. Disgybla dy fab, a daw â chysur iti,a rhydd lawenydd iti yn dy fywyd.

Diarhebion 29