Diarhebion 28:26-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

26. Y mae'r un sy'n ymddiried ynddo'i hun yn ynfyd,ond fe waredir y sawl sy'n dilyn doethineb.

27. Ni ddaw angen ar yr un sy'n rhoi i'r tlawd,ond daw llawer o felltithion ar yr un sy'n cau ei lygaid.

28. Pan ddaw'r drygionus i awdurdod, bydd pobl yn ymguddio,ond ar ôl eu difa, bydd y cyfiawn yn amlhau.

Diarhebion 28