Diarhebion 23:25-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

25. Bydded i'th dad a'th fam gael llawenydd,ac i'r un a esgorodd arnat gael hyfrydwch.

26. Fy mab, dal sylw arnaf,a bydded i'th lygaid ymhyfrydu yn fy ffyrdd.

27. Y mae'r butain fel pwll dwfn,a'r ddynes estron fel pydew cul;

28. y mae'n llercian fel lleidr,ac yn amlhau'r godinebwyr ymysg dynion.

29. Pwy sy'n cael gwae? Pwy sy'n cael gofid?Pwy sy'n cael ymryson a chŵyn?Pwy sy'n cael poen yn ddiachos,a chochni llygaid?

Diarhebion 23