Diarhebion 21:26-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

26. Trachwantu y mae'r annuwiol bob amser,ond y mae'r cyfiawn yn rhoi heb arbed.

27. Ffiaidd yw aberth y drygionus,yn enwedig pan offrymir ef mewn dichell.

28. Difethir y tyst celwyddog,ond y mae'r tyst cywir yn cael llefaru.

29. Y mae'r drygionus yn caledu ei wyneb,ond yr uniawn yn trefnu ei ffyrdd.

30. Nid yw doethineb na deall na chyngoryn ddim o flaen yr ARGLWYDD.

Diarhebion 21