Diarhebion 15:18-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. Y mae un drwg ei dymer yn codi cynnen,ond y mae'r amyneddgar yn tawelu cweryl.

19. Y mae ffordd y diog fel llwyn mieri,ond llwybr yr uniawn fel priffordd wastad.

20. Rhydd mab doeth lawenydd i'w dad,ond y mae'r ffôl yn dilorni ei fam.

21. Y mae ffolineb yn ddifyrrwch i'r disynnwyr,ond y mae'r deallus yn cadw ffordd union.

Diarhebion 15