Diarhebion 14:22-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

22. Onid yw'r rhai sy'n cynllwynio drwg yn cyfeiliorni,ond y rhai sy'n cynllunio da yn deyrngar a ffyddlon?

23. Ym mhob llafur y mae elw,ond y mae gwag-siarad yn arwain i angen.

24. Eu craffter yw coron y doeth,ond ffolineb yw addurn y ffyliaid.

Diarhebion 14