15. Fe dry'r ARGLWYDD bob clefyd oddi wrthych, ac ni fydd yn dwyn arnoch chwi yr un o'r heintiau difrifol a brofasoch yn yr Aifft, ond yn eu gosod ar yr holl rai sy'n eich casáu.
16. Yr ydych i ddifa'r holl bobloedd y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn eu rhoi i chwi; nid ydych i dosturio wrthynt nac addoli eu duwiau, oherwydd byddai hynny yn fagl ichwi.
17. Hwyrach y byddwch yn dweud ynoch eich hunain, “Y mae'r cenhedloedd hyn yn fwy niferus na ni; sut felly y gallwn eu gyrru allan?”
18. Peidiwch â'u hofni; daliwch i gofio'r hyn a wnaeth yr ARGLWYDD eich Duw i Pharo a'r Aifft i gyd.
19. Gwelsoch â'ch llygaid eich hunain y treialon mawr, yr arwyddion a'r rhyfeddodau, ac fel y daeth yr ARGLWYDD eich Duw â chwi allan â llaw gadarn a braich estynedig; felly y gwna'r ARGLWYDD eich Duw i'r holl bobloedd yr ydych yn eu hofni.