Deuteronomium 4:18-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. nac unrhyw beth sy'n ymlusgo ar y ddaear, nac unrhyw bysgodyn sydd yn y dŵr dan y ddaear.

19. Gwylia hefyd na fyddi'n codi dy olwg i'r nefoedd ac edrych ar yr haul, y lleuad neu'r sêr, holl lu'r nefoedd, a chael dy ddenu i ymgrymu iddynt a'u haddoli; neilltuodd yr ARGLWYDD dy Dduw y rhain ar gyfer yr holl bobloedd dan y nefoedd.

20. Ond cymerodd yr ARGLWYDD chwi, a daeth â chwi allan o'r ffwrnais haearn, o'r Aifft, i fod yn bobl sy'n etifeddiaeth iddo'i hun, fel yr ydych heddiw.

21. Yr oedd yr ARGLWYDD yn ddig wrthyf o'ch achos chwi, a thyngodd na chawn groesi'r Iorddonen, na mynd i mewn i'r wlad dda y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei rhoi yn feddiant iti.

Deuteronomium 4