Deuteronomium 33:17-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Boed ei ysblander fel eiddo'r ych blaenaf,a'i gyrn fel cyrn ych gwyllt;bydd yn cornio'r bobloedd â hwya'u gyrru hyd eithaf y ddaear.Rhai felly fydd myrddiynau Effraim,rhai felly fydd miloedd Manasse.

18. Dywedodd am Sabulon:Llawenha, Sabulon, wrth fynd allan i ryfel,ac Issachar yn dy bebyll.

19. Galwant bobloedd allan i'r mynydd-dir,ac yno offrymu aberthau cywir.Yn wir, cânt sugno golud y môr,a thrysorau wedi eu cuddio yn y tywod.

20. Dywedodd am Gad:Bendith ar yr hwn sy'n peri i Gad ymestyn!Y mae fel llew yn ei diriogaeth,yn rhwygo ymaith fraich a chorun.

Deuteronomium 33