Deuteronomium 32:21-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. Gwnaethant fi'n eiddigeddus wrth un nad yw'n dduw,a'm digio â'u heilunod;gwnaf finnau hwy'n eiddigeddus wrth bobl nad yw'n bobl,a'u digio â chenedl ynfyd.

22. “Yn ddiau, cyneuwyd tân gan fy nig,ac fe lysg hyd waelod Sheol;bydd yn ysu'r tir a'i gynnyrch,ac yn ffaglu seiliau'r mynyddoedd.

23. Pentyrraf ddrygau arnynt,saethaf atynt bob saeth sydd gennyf:

24. nychdod newyn, anrheithiau twymyn,a dinistr chwerw.Anfonaf ddannedd bwystfilod yn eu herbyna gwenwyn ymlusgiaid y llwch.

25. Oddi allan bydd y cleddyf yn creu amddifaid,ac yn y cartref bydd arswyd;trewir y gwŷr ifainc a'r gwyryfon fel ei gilydd,y baban sugno yn ogystal â'r hynafgwr.

26. “Fy mwriad oedd eu gwasgaru,a pheri i bob coffa amdanynt ddarfod,

Deuteronomium 32