Deuteronomium 32:11-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Fel eryr yn cyffroi ei nythac yn hofran uwch ei gywion,lledai ei adenydd a'u cymryd ato,a'u cludo ar ei esgyll.

12. Yr ARGLWYDD ei hunan fu'n ei arwain,heb un duw estron gydag ef.

13. Gwnaeth iddo farchogaeth ar uchelderau'r ddaear,a bwyta cnwd y maes;parodd iddo sugno mêl o'r clogwyn,ac olew o'r graig gallestr.

14. Cafodd ymenyn o'r fuches,llaeth y ddafad a braster ŵyn,hyrddod o frid Basan, a bychod,braster gronynnau gwenith hefyd,a gwin o sudd grawnwin i'w yfed.

15. Bwytaodd Jacob, a'i ddigoni;pesgodd Jesurun, a chiciodd;pesgodd, a thewychu'n wancus.Gwrthododd y Duw a'i creodd,a diystyru Craig ei iachawdwriaeth.

Deuteronomium 32