Deuteronomium 28:16-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Melltith arnat yn y dref ac yn y maes.

17. Melltith ar dy gawell a'th badell dylino.

18. Melltith ar ffrwyth dy gorff a chnwd dy dir, ar gynnydd dy wartheg ac epil dy ddefaid.

19. Melltith arnat wrth ddod i mewn ac wrth fynd allan.

20. Bydd yr ARGLWYDD yn anfon arnat felltithion, dryswch, a cherydd ym mha beth bynnag yr wyt yn ei wneud, nes dy ddinistrio a'th ddifetha'n gyflym oherwydd drygioni dy waith yn ei wrthod.

21. Bydd yr ARGLWYDD yn peri i haint lynu wrthyt nes dy ddifa oddi ar y tir yr wyt yn mynd iddo i'w feddiannu.

22. Bydd yr ARGLWYDD yn dy daro â darfodedigaeth, twymyn, llid a chryd; â sychder hefyd a deifiant a malltod. Bydd y rhain yn dy ddilyn nes dy ddifodi.

23. Bydd yr wybren uwch dy ben yn bres, a'r ddaear oddi tanat yn haearn.

Deuteronomium 28