Deuteronomium 27:24-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. “Melltith ar y sawl sy'n ymosod ar rywun arall yn y dirgel.” Y mae'r holl bobl i ddweud, “Amen.”

25. “Melltith ar y sawl sy'n derbyn tâl am ladd dyn dieuog.” Y mae'r holl bobl i ddweud, “Amen.”

26. “Melltith ar unrhyw un nad yw'n ategu holl eiriau'r gyfraith hon trwy eu cadw.” Y mae'r holl bobl i ddweud, “Amen.”

Deuteronomium 27