Deuteronomium 27:13-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. A dyma'r rhai sydd i sefyll ar Fynydd Ebal i felltithio: Reuben, Gad, Aser, Sabulon, Dan a Nafftali.”

14. Bydd y Lefiaid yn cyhoeddi wrth holl bobl Israel â llais uchel:

15. “Melltith ar y sawl a wna ddelw gerfiedig neu eilun tawdd, a gosod i fyny'n ddirgel bethau o waith dwylo crefftwr, pethau sy'n ffiaidd gan yr ARGLWYDD.” Y mae'r holl bobl i ateb, “Amen.”

16. “Melltith ar y sawl sy'n dirmygu ei dad neu ei fam.” Y mae'r holl bobl i ddweud, “Amen.”

17. “Melltith ar y sawl sy'n symud terfyn ei gymydog.” Y mae'r holl bobl i ddweud, “Amen.”

Deuteronomium 27