Deuteronomium 1:9-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Yr adeg honno fe ddywedais wrthych, “Ni allaf eich cynnal fy hunan.

10. Y mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi'ch gwneud yn lluosog, a dyma chwi heddiw mor niferus â sêr y nefoedd.

11. Bydded i'r ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, eich lluosogi filwaith eto, a'ch bendithio fel yr addawodd i chwi.

12. Sut y gallaf gymryd arnaf fy hun eich poenau a'ch beichiau a'ch ymryson?

13. Dewiswch o blith eich llwythau ddynion doeth, deallus a phrofiadol, a gosodaf hwy yn benaethiaid arnoch.”

14. Eich ymateb i mi oedd dweud, “Y mae'r hyn a ddywedaist wrthym am ei wneud yn awgrym da.”

Deuteronomium 1