Datguddiad 20:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Gwelais angel yn disgyn o'r nef, a chanddo yn ei law allwedd y dyfnder a chadwyn fawr.

2. Gafaelodd yn y ddraig, yr hen sarff, sef Diafol a Satan, a rhwymodd hi am fil o flynyddoedd.

3. Bwriodd hi i'r dyfnder, a chloi'r pwll a'i selio arni rhag iddi dwyllo'r cenhedloedd eto, nes i'r mil blynyddoedd ddod i ben; ar ôl hynny, rhaid ei gollwng yn rhydd am ychydig amser.

Datguddiad 20