Daniel 3:17-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Y mae'r Duw a addolwn ni yn alluog i'n hachub, ac fe'n hachub o ganol y ffwrnais danllyd ac o'th afael dithau, O frenin;

18. a hyd yn oed os na wna, yr ydym am i ti wybod, O frenin, na wasanaethwn ni dy dduwiau nac addoli'r ddelw aur a wnaethost.”

19. Yna cynddeiriogodd Nebuchadnesar, a newid ei agwedd tuag at Sadrach, Mesach ac Abednego.

20. Gorchmynnodd dwymo'r ffwrnais yn seithwaith poethach nag arfer, ac i filwyr praff o'i fyddin rwymo Sadrach, Mesach ac Abednego a'u taflu i'r ffwrnais dân.

21. Felly rhwymwyd y tri yn eu dillad—cotiau, crysau a chapiau—a'u taflu i ganol y ffwrnais dân.

22. Yr oedd gorchymyn y brenin mor chwyrn, a'r ffwrnais mor boeth,

Daniel 3