Cân Y Tri Llanc 1:61-65 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

61. Bendithiwch yr Arglwydd, O Israel;molwch ef, a'i dra-dyrchafu dros byth.

62. Bendithiwch yr Arglwydd, chwi offeiriaid yr Arglwydd;molwch ef, a'i dra-dyrchafu dros byth.

63. Bendithiwch yr Arglwydd, chwi weision yr Arglwydd;molwch ef, a'i dra-dyrchafu dros byth.

64. Bendithiwch yr Arglwydd, chwi ysbrydoedd ac eneidiau'r cyfiawn;molwch ef, a'i dra-dyrchafu dros byth.

65. Bendithiwch yr Arglwydd, chwi'r rhai sanctaidd a gostyngedig eu calon;molwch ef, a'i dra-dyrchafu dros byth.

Cân Y Tri Llanc 1