Baruch 3:24-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. O Israel, mor fawr yw tŷ Dduw, mor helaeth y fangre a fedd.

25. Mawr ydyw, a diderfyn, uchel a difesur.

26. Yno y ganed y cewri enwog gynt, mawr o gorff a medrus mewn rhyfel.

27. Ond nid y rhain a ddewisodd Duw, ac nid iddynt hwy y datguddiodd ffordd gwybodaeth.

28. Darfu amdanynt, felly, am nad oedd ganddynt ddeall; darfu amdanynt oherwydd eu diffyg synnwyr.

29. Pwy a ddringodd i'r nefoedd i gael gafael ynddi a'i dwyn i lawr o'r cymylau?

Baruch 3