Baruch 2:5-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Eu darostwng a gawsant yn hytrach na'u dyrchafu, am bechod ein pobl yn erbyn yr Arglwydd ein Duw, yn gymaint ag i ni wrthod gwrando ar ei lais.

6. I'r Arglwydd ein Duw y perthyn cyfiawnder, ond i ni ac i'n hynafiaid gywilydd wyneb hyd y dydd hwn.

7. Y mae'r holl ddrygau hyn, a lefarodd yr Arglwydd yn ein herbyn, wedi disgyn arnom.

8. Eto ni weddïasom gerbron yr Arglwydd, ar i bob un droi oddi wrth feddyliau ei galon ddrygionus.

9. Cadwodd yr Arglwydd wyliadwriaeth arnom, a dwyn arnom y drygau hyn, oherwydd cyfiawn yw'r Arglwydd yn yr holl ofynion y gorchmynnodd i ni eu cadw.

10. Ond ni wrandawsom ar ei lais ef, i fyw yn ôl y gorchmynion a roes yr Arglwydd ger ein bron.

Baruch 2