Baruch 2:12-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. O Arglwydd ein Duw, pechasom a buom annuwiol ac anghyfiawn, yn groes i'th holl orchmynion di.

13. Troer dy lid oddi wrthym, oherwydd fe'n gadawyd yn ychydig ymysg y cenhedloedd lle y gwasgeraist ni.

14. Gwrando, Arglwydd, ar ein gweddi a'n deisyfiad, a gwared ni er dy fwyn dy hun, a phâr i ni ennill ffafr y rhai a'n caethgludodd,

15. er mwyn i'r holl ddaear wybod mai ti, Arglwydd, yw ein Duw ni, ac mai wrth dy enw di y gelwir Israel a'i genedl.

16. Arglwydd, edrych i lawr o'th breswylfod sanctaidd ac ystyria ni. Gostwng dy glust, Arglwydd, a gwrando;

Baruch 2