Barnwyr 9:10-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Yna dywedodd y coed wrth y ffigysbren, ‘Tyrd di; bydd yn frenin arnom.’

11. Atebodd y ffigysbren, ‘A adawaf fi fy melystra a'm ffrwyth hyfryd, a mynd i lywodraethu ar y coed?’

12. Dywedodd y coed wrth y winwydden, ‘Tyrd di; bydd yn frenin arnom.’

13. Ond atebodd y winwydden, ‘A adawaf fi fy ngwin melys, sy'n llonni Duw a dyn, a mynd i lywodraethu ar y coed?’

14. Yna dywedodd yr holl goed wrth y fiaren, ‘Tyrd di; bydd yn frenin arnom.’

Barnwyr 9