Barnwyr 5:8-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Pan ddewiswyd duwiau newydd,yna daeth brwydro i'r pyrth,ac ni welwyd na tharian na gwaywffonymhlith deugain mil yn Israel.

9. Mae fy nghalon o blaid llywiawdwyr Israel,y rhai ymysg y bobl a aeth o'u gwirfodd.Bendithiwch yr ARGLWYDD.

10. “Ystyriwch, chwi sy'n marchogaeth asynnod melyngoch,chwi sy'n eistedd ar gyfrwyau, chwi sy'n cerdded y ffordd.

11. Clywch y rhai sy'n disgwyl eu tro ger y ffynhonnau,ac yno'n adrodd buddugoliaethau'r ARGLWYDD,buddugoliaethau ei bentrefwyr yn Israel,pan aeth byddin yr ARGLWYDD i lawr i'r pyrth.

Barnwyr 5