Barnwyr 5:20-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. O'r nef ymladdodd y sêr,ymladd o'u cylchoedd yn erbyn Sisera.

21. ‘Ysgubodd nant Cison hwy ymaith,cododd llif nant Cison yn eu herbyn.Fy enaid, cerdda ymlaen mewn nerth.

22. Yna'r oedd carnau'r ceffylau'n diasbedaingan garlam gwyllt eu meirch cryfion.’

23. “ ‘Melltigwch Meros,’ medd angel yr ARGLWYDD,‘melltigwch yn llwyr ei thrigolion,am na ddaethant i gynorthwyo'r ARGLWYDD,i gynorthwyo'r ARGLWYDD gyda'r gwroniaid.’

Barnwyr 5