Barnwyr 20:17-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Yr oedd gwŷr Israel, ar wahân i Benjamin, yn rhestru pedwar can mil o ddynion yn dwyn cleddyf, pob un yn rhyfelwr.

18. Aeth yr Israeliaid yn eu blaen i Fethel, a gofyn i Dduw, “Pwy ohonom sydd i arwain yn y frwydr yn erbyn y Benjaminiaid?” Atebodd yr ARGLWYDD, “Jwda sydd i arwain.”

19. Cychwynnodd yr Israeliaid ben bore a gwersyllu gyferbyn â Gibea.

20. Aeth yr Israeliaid i ymosod ar y Benjaminiaid, a gosod eu rhengoedd ar gyfer brwydr o flaen Gibea.

21. Ond ymosododd y Benjaminiaid allan o Gibea, a gadael dwy fil ar hugain o blith byddin Israel yn farw ar y maes y diwrnod hwnnw.

22. Cyn i fyddin pobl Israel atgyfnerthu ac ailymgynnull i ryfel yn yr un fan â'r diwrnod cynt,

Barnwyr 20