Barnwyr 19:12-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Ond atebodd ei feistr, “Nid awn i mewn i ddinas estron lle nad oes Israeliaid; fe awn cyn belled â Gibea.”

13. Ac meddai wedyn wrth ei was, “Tyrd, fe awn cyn belled â Gibea neu Rama, a threulio'r nos yn un ohonynt.”

14. Felly ymlaen â hwy nes i'r haul fachlud arnynt yn ymyl Gibea Benjamin.

15. Troesant i mewn yno i dreulio'r nos yn Gibea; ond er iddynt fynd ac eistedd ar sgwâr y dref, nid oedd neb am eu cymryd i mewn i letya.

Barnwyr 19