Barnwyr 16:20-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. Dywedodd, “Y mae'r Philistiaid ar dy warthaf, Samson!” Deffrôdd ef o'i gwsg gan feddwl, “Af allan fel o'r blaen ac ymryddhau.” Ni wyddai fod yr ARGLWYDD wedi cefnu arno.

21. Daliodd y Philistiaid ef, a thynnu ei lygaid, a mynd ag ef i lawr i Gasa a'i rwymo mewn gefynnau; a bu'n malu blawd yn y carchardy.

22. Ond dechreuodd ei wallt dyfu eto ar ôl ei eillio.

23. Daeth arglwyddi'r Philistiaid ynghyd mewn llawenydd i offrymu aberth mawr i'w duw Dagon a dweud:“Rhoddodd ein duw yn ein dwyloein gelyn Samson.”

24. A phan welodd y bobl ef, rhoesant foliant i'w duw a dweud:“Rhoddodd ein duw yn ein dwyloein gelyn ac anrheithiwr ein gwlad,a amlhaodd ein celaneddau.”

Barnwyr 16