Barnwyr 15:3-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Ond dywedodd Samson wrthynt, “Y tro hwn fe dalaf y pwyth i'r Philistiaid; fe achosaf niwed difrifol iddynt.”

4. Aeth Samson a dal tri chant o lwynogod; ac wedi iddo gael ffaglau, fe'u clymodd hwy gynffon wrth gynffon, a gosod ffagl yn y canol rhwng y ddwy gynffon.

5. Yna wedi iddo gynnau'r ffaglau, gyrrodd hwy drwy gnydau'r Philistiaid, a llosgi'r styciau a'r ŷd oedd heb ei dorri a'r gerddi olewydd.

6. Pan ofynnodd y Philistiaid pwy oedd wedi gwneud hyn, dywedwyd, “Samson, mab-yng-nghyfraith y dyn o Timna, am fod hwnnw wedi cymryd ei wraig ef a'i rhoi i'w was priodas.”

7. Aeth y Philistiaid a'i llosgi hi a'i thad; a dywedodd Samson, “Os ydych chwi'n ymddwyn fel hyn, nid ymataliaf finnau nes dial arnoch.”

8. Trawodd hwy'n bendramwnwgl â difrod mawr, cyn mynd ymaith ac aros mewn hafn yng nghraig Etam.

Barnwyr 15