Barnwyr 15:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Ymhen amser, ar adeg y cynhaeaf gwenith, ymwelodd Samson â'i wraig gyda myn gafr, a dweud, “Yr wyf am gael mynd at fy ngwraig i'r siambr.” Ond ni chaniataodd ei thad iddo fynd,

2. a dywedodd wrtho, “Yr oeddwn yn meddwl yn sicr ei bod hi'n llwyr atgas gennyt; felly rhoddais hi i'th was priodas. Y mae ei chwaer iau yn dlysach na hi; cymer hi yn ei lle.”

3. Ond dywedodd Samson wrthynt, “Y tro hwn fe dalaf y pwyth i'r Philistiaid; fe achosaf niwed difrifol iddynt.”

Barnwyr 15