2 Samuel 24:17-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Pan welodd Dafydd yr angel yn taro'r bobl, dywedodd wrth yr ARGLWYDD, “Myfi sydd wedi pechu, a myfi sydd wedi gwneud drwg; ond am y defaid hyn, beth a wnaethant hwy? Bydded dy law yn f'erbyn i a'm teulu.”

18. Daeth Gad at Ddafydd y diwrnod hwnnw a dweud wrtho, “Dos, a chyfod allor i'r ARGLWYDD ar lawr dyrnu Arafna y Jebusiad.”

19. Felly, ar air Gad, fe aeth Dafydd fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD.

2 Samuel 24